Mae arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol (CYs) yn effeithio ar dros 17 miliwn o bobl ledled y DU. Mae anhwylderau cyhyrysgerbydol (ACYau) yn gyflyrau sy’n effeithio ar y nerfau, y tendonau, y cyhyrau a’r strwythurau ategol ac maent yn gysylltiedig â nifer o gyflyrau iechyd eraill.
Poen a symudedd cyfyngedig yw prif nodweddion ystod o gyflyrau cyhyrysgerbydol. Wrth i bobl fynd yn hŷn, mae’r risg o gael cyflwr CYs yn codi. Yn gyffredinol, mae menywod mewn mwy o berygl o gael problemau gyda’u hesgyrn, eu cyhyrau a’u cymalau na dynion. Mewn llawer o achosion, mae cyflyrau CYs yn ymyrryd â’n gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae cysylltiad annatod rhwng eich iechyd cyhyrysgerbydol a’ch ffordd o fyw.
Y ffactorau allweddol sy’n effeithio ar iechyd cyhyrysgerbydol yw:
- Gweithgarwch corfforol
- Gordewdra
- Oedran a/neu eiddilwch corfforol
- Damwain neu drawma
- Ysmygu
- Alcohol
- Deiet
Er bod rheoli rhai cyflyrau CYs yn gofyn am ofal arbenigol a/neu lawfeddygol, gellir rheoli llawer o gyflyrau CYs drwy ymarfer corff, rheoli pwysau, maeth da, rhoi’r gorau i ysmygu, cael digon o gwsg o ansawdd da a phoenladdwyr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu’r wefan hon i gefnogi cymuned Gwent i ddeall pryderon cyffredin ynghylch y cyhyrau, y cymalau a’r esgyrn a’r hyn y gellir ei wneud i helpu. Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem. Gweithiwch drwy’r rhain i’ch helpu i wneud y dewis mwyaf priodol yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
Gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano yma ac efallai’n dysgu pethau newydd. Ewch i Gam 1
Gall poen a symudedd cyfyngedig gael effaith ar ein hiechyd meddwl hefyd, yn enwedig pan fydd yn ein hatal rhag gwneud y pethau rydym yn eu mwynhau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi casglu amrywiaeth o adnoddau i hyrwyddo a gwella lles meddyliol ar eu gwefan Melo Cymru. Yma fe welwch adnoddau hunangymorth a dolenni i gymorth pellach megis rhaglenni cwnsela ar-lein a manylion sefydliadau a gwasanaethau a allai helpu.
Hunanofal
Dolenni a gwybodaeth ychwanegol
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru amrywiaeth o adnoddau gyda chyngor ar ffordd o fyw ac awgrymiadau da ar gyfer dechrau bod yn fwy actif:
Arthritis UK – am ragor o wybodaeth am raddfa ac effaith cyflyrau cyhyrysgerbydol:
ARMA– Cynghrair Arthritis a Chyhyrysgerbydol
Arthritis Action
Rhaglenni Addysg i Gleifion (RhAG) – Gall cymorth a geir drwy’r rhaglen hon fod yn ddefnyddiol iawn – ffeindiwch nhw ar Facebook neu wefan Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO).
Ymddiriedolaeth Gofalwyr – Os ydych yn ofalwr, mae yma gymorth i ofalwyr pobl sydd â chyflyrau hirdymor.
Mae AskSARA yn adnodd ar y we a allai gynnig gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar eich cartref, mynd allan a chefnogaeth gyda meddyginiaethau a symptomau
Mae “We Are Undefeatable” yn fudiad cyfunol sy’n cefnogi pobl ag ystod o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r ymgyrch yn cael ei datblygu gan 15 o elusennau iechyd a gofal cymdeithasol blaenllaw. Eu pwrpas yw cefnogi ac annog dod o hyd i ffyrdd o fod yn egnïol mewn ffordd sy’n gweithio i chi a’ch cyflwr iechyd.
ENGLISH










