Beth sy’n cyfrannu at symptomau yn y cyhyrau, yr esgyrn a’r cymalau?

Edrychwch ar y ffactorau a ddisgrifir yma fel y gallwch ddechrau meddwl am y ffordd y gallai ffactorau gwahanol gael effaith ar eich iechyd cyhyrysgerbydol a’r symptomau sydd gennych.

lady in blue denim shirt sat in kitchen in front of computer holding her neck

Sut y dechreuodd

Mae rhai problemau yn dechrau wedi anaf, fel cwymp. Gall eraill ddeillio o wneud mwy o weithgarwch nag a wnewch fel arfer, megis mwy o arddio, neu ddechrau gweithgaredd neu hobi newydd. Weithiau nid oes un achos amlwg.

Sut y’n gwnaethpwyd

Gall ein gallu i symud yn dda gael ei effeithio gan ein gwahaniaethau unigol. Gall y rhain ddeillio o’r hyn yr ydym wedi ein geni gyda nhw, beth sy’n digwydd i ni, (e.e. anafiadau blaenorol, llawdriniaeth, cyflyrau meddygol, gwaith), a sut rydym yn heneiddio.

man in cycle helmet on a bike smiling, in autumnal woodland
older lady and gentleman sitting in a gym raising dumbells

Sut rydyn ni’n symud

Mae angen symudiad, gweithgaredd a phwrpas arnom i gadw’n iach. Mae hyn yn bwysig waeth beth fo’n hoedran. Mae gweithgarwch rheolaidd yn helpu ein corff i ymdopi â’r hyn yr ydym am ei wneud ac y mae angen i ni ei wneud.

Chwiliwch am wybodaeth am fanteision gweithgarwch ac ymarfer corff a chyngor ar beth i’w wisgo ar eich traed yng ngham tri, i ddeall sut y gall hyn gael effaith ar eich esgyrn, eich cymalau a’ch cyhyrau.

Beth yr ydym yn ei feddwl a sut rydyn ni’n teimlo

Mae ein meddyliau a’n teimladau yn dylanwadu ar ein profiad o boen a sut rydym yn ymateb iddo. Er enghraifft, gall bod yn bryderus neu’n isel wneud i’n symptomau deimlo’n waeth a newid ein hymddygiad.

Gall teimlo’n dawel eich meddwl ac yn hyderus ynglŷn â beth i’w wneud ein helpu i symud yn well ac adfer yn dda.

lady looking very engaged holding a white cup of coffee
female jogger at night time stretching to one side with one hand on the floor

Pa weithgareddau rydym yn eu gwneud a sut rydym yn eu gwneud

Mae ein corff yn addasu i’r pethau rydyn ni’n eu gwneud bob dydd. Mae gwneud gormod o’r un peth, er enghraifft perfformio’r un symudiad mewn sefyllfa letchwith neu eistedd yn rhy hir, yn ein rhoi mewn perygl o ddatblygu problem yn y cyhyrau, mewn cymal neu asgwrn.

Mae rhoi amser i’n corff addasu’n raddol i weithgareddau a gofynion amrywiol yn lleihau’r risg hon ac yn ein helpu i symud yn well a gwneud yr hyn yr ydym am ei wneud ac y mae angen i ni ei wneud.

Pa mor heini ac iach rydyn ni

Er mwyn gwneud yr hyn sy’n bwysig yn llwyddiannus, mae’n bwysig bod yn ddigon cryf, hyblyg a heini. Gall ein cwsg a’n hiechyd meddwl effeithio ar ba mor dda rydym yn ymateb i heriau bywyd.

Bydd ein dewisiadau ffordd o fyw o ran deiet, alcohol, ysmygu a gweithgarwch yn effeithio ar iechyd ein cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

man in grey swimming cap and goggles swimming in a pool

Gan feddwl am y ffactorau a ddisgrifir yma, symudwch i gam tri i gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw a chymorth arall sydd ar gael.

Menu