1. Hafan
  2. Cyswllt
  3. Ceisio cymorth pellach – proses gwneud cais

Ceisio cymorth pellach – proses gwneud cais

Os hoffech gael cymorth pellach gyda’ch problem cyhyr, cymal neu asgwrn, gallwch gysylltu â’r Bwrdd Iechyd i gael help gan ddefnyddio’r ffurflen cais am gymorth isod.  Os na allwch lenwi’r ffurflen hon yn electronig ac os hoffech gael cymorth, cysylltwch â 0300 3732539 (Llun i ddydd Gwener) a bydd un o’n tîm yn eich helpu.

Nid oes angen i chi ymweld â’ch meddyg teulu i gael mynediad at wasanaethau.

Mae’r ffurflen cais am gymorth yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym sut mae eich problem cyhyr, cymal neu asgwrn yn effeithio arnoch chi a pham yr hoffech chi gael help.   

Gofynnir i chi hefyd am wybodaeth am eich iechyd cyffredinol.

Mae’r ffurflen cais am gymorth hon yn gofyn i chi feddwl am sut mae eich problem asgwrn, cyhyr neu gymal yn effeithio arnoch chi. Bydd y wybodaeth a roddir gennych yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i chi.  Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun yn ein helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch chi gennym ni fel timau iechyd neu ofal fel rhan o’r broses adsefydlu ac i roi chi mewn cysylltiad â’r gweithiwr iechyd proffesiynol cywir i’ch helpu.

Noder nad yw’r ffurflen cais am gymorth yn disodli cyngor meddygol ar gyfer argyfyngau.

Os ydych chi’n aelod o staff GIG Cymru a bod eich problem asgwrn, cyhyr neu gymal yn effeithio ar eich presenoldeb yn y gwaith, nodwch hyn ar y ffurflen.

Os ydych chi’n gyn-filwr y Gwasanaethau Arfog a bod eich problem asgwrn, cyhyr neu gymal yn gysylltiedig â’ch gwasanaeth, eglurwch hynny i ni ar y ffurflen.

Beth sy’n digwydd i’m ffurflen cais am gymorth?

Bydd y tîm o weinyddwyr a therapyddion sy’n gweithio yn y ‘ganolfan CYs’ yn darllen y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi amdanoch chi’ch hun.   Gyda’ch caniatâd efallai y byddant hefyd yn edrych ar eich cofnodion iechyd electronig a’ch ymchwiliadau blaenorol i gael syniad llawn o’ch pryderon a’ch anghenion.

Weithiau mae angen i’r tîm gweinyddol neu’r clinigwyr gysylltu â chi i ofyn cwestiynau pellach i chi. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall y ffordd orau i’ch cefnogi.

Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch gael eich cefnogi i reoli eich problem cyhyr, cymal neu asgwrn.   Isod ceir rhai enghreifftiau o’r mathau o gymorth y gellir eu cynnig pan fyddwch yn hunan-atgyfeirio:

  • Darparu’r wybodaeth a’r cyngor cywir fel y gallwch reoli eich pryder eich hun yn hyderus
  • Darparu gwybodaeth am grwpiau cymorth cymunedol y gallech gysylltu â nhw
  • Darparu gwybodaeth am grwpiau gweithgareddau/ymarfer corff cymunedol y gallech eu mynychu
  • Atgyfeiriad at dîm adsefydlu yn y gymuned
  • Atgyfeiriad at y gwasanaeth cwympiadau
  • Atgyfeiriad at dîm ysbyty (e.e. Rhiwmatoleg, Orthopedeg, Radioleg)
  • Cyfeirio at ffisiotherapi, podiatreg, rheoli pwysau neu wasanaethau dietetig

Cyn i chi gwblhau’r cais am gymorth, dyma rai cwestiynau i chi:

Mae adsefydlu’n gweithio’n fwy llwyddiannus wrth weithio tuag at weithgaredd neu dargedau penodol – rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘nodau’.  Beth yw eich amcanion? Beth ydych chi’n meddwl sydd angen help arnoch i gyflawni’r amcanion hyn?

Wrth feddwl am eich nodau, efallai y byddai’n ddefnyddiol ystyried yr hyn sydd wedi newid neu’r hyn yr effeithiwyd arno gan eich pryder cyhyr, cymal neu asgwrn.

Efallai yr hoffech feddwl am hyn o safbwynt:

  • Eich lles
  • Eich gweithgareddau dyddiol
  • Eich gwaith
  • Eich perthnasoedd

Os na allwch lenwi’r ffurflen hon yn electronig ac os hoffech gael cymorth, cysylltwch â 0300 3732539 (Llun i ddydd Gwener) a bydd un o’n tîm yn eich helpu.

Gwybodaeth

Menu